Hen Destament

Testament Newydd

Esther 2:7-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Ac efe a fagasai Hadassa, honno yw Esther, merch ei ewythr ef frawd ei dad; canys nid oedd iddi dad na mam: a'r llances oedd weddeiddlwys, a glân yr olwg; a phan fuasai ei thad a'i mam hi farw, Mordecai a'i cymerasai hi yn ferch iddo.

8. A phan gyhoeddwyd gair y brenin a'i gyfraith, pan gasglasid hefyd lancesau lawer i Susan y brenhinllys dan law Hegai, cymerwyd Esther i dŷ y brenin, dan law Hegai ceidwad y gwragedd.

9. A'r llances oedd deg yn ei olwg ef, a hi a gafodd ffafr ganddo; am hynny efe ar frys a barodd roddi iddi bethau i'w glanhau, a'i rhannau, a rhoddi iddi saith o lancesau golygus, o dŷ y brenin: ac efe a'i symudodd hi a'i llancesau i'r fan orau yn nhŷ y gwragedd.

10. Ond ni fynegasai Esther ei phobl na'i chenedl: canys Mordecai a orchmynasai iddi nad ynganai.

11. A Mordecai a rodiodd beunydd o flaen cyntedd tŷ y gwragedd, i wybod llwyddiant Esther, a pheth a wnelid iddi.

12. A phan ddigwyddai amser pob llances i fyned i mewn at y brenin Ahasferus, wedi bod iddi hi yn ôl defod y gwragedd ddeuddeng mis, (canys felly y cyflawnid dyddiau eu puredigaeth hwynt; chwe mis mewn olew myrr, a chwe mis mewn peraroglau, a phethau eraill i lanhau y gwragedd;)

13. Yna fel hyn y deuai y llances at y brenin; pa beth bynnag a ddywedai hi amdano a roddid iddi, i fyned gyda hi o dŷ y gwragedd i dŷ y brenin.

14. Gyda'r hwyr yr âi hi i mewn, a'r bore hi a ddychwelai i dŷ arall y gwragedd, dan law Saasgas, ystafellydd y brenin, ceidwad y gordderchadon: ni ddeuai hi i mewn at y brenin mwyach, oddieithr i'r brenin ei chwennych hi, a'i galw hi wrth ei henw.

15. A phan ddigwyddodd amser Esther, merch Abihail ewythr Mordecai, yr hon a gymerasai efe yn ferch iddo, i fyned i mewn at y brenin, ni cheisiodd hi ddim ond yr hyn a ddywedasai Hegai, ystafellydd y brenin, ceidwad y gwragedd: ac Esther oedd yn cael ffafr yng ngolwg pawb a'r oedd yn edrych arni.

16. Felly Esther a gymerwyd at y brenin Ahasferus, i'w frenhindy ef, yn y degfed mis, hwnnw yw mis Tebeth, yn y seithfed flwyddyn o'i deyrnasiad ef.

Darllenwch bennod gyflawn Esther 2