Hen Destament

Testament Newydd

Esther 2:2-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Am hynny gweision y brenin, y rhai oedd yn gweini iddo, a ddywedasant, Ceisier i'r brenin lancesau teg yr olwg o wyryfon:

3. A gosoded y brenin swyddogion trwy holl daleithiau ei frenhiniaeth, a chasglant hwythau bob llances deg yr olwg, o wyry, i Susan y brenhinllys, i dŷ y gwragedd, dan law Hegai, ystafellydd y brenin, ceidwad y gwragedd; a rhodder iddynt bethau i'w glanhau:

4. A'r llances a fyddo da yng ngolwg y brenin, a deyrnasa yn lle Fasti. A da oedd y peth hyn yng ngolwg y brenin; ac felly y gwnaeth efe.

5. Yn Susan y brenhinllys yr oedd rhyw Iddew a'i enw Mordecai, mab Jair, fab Simei, fab Cis, gŵr o Jemini:

6. Yr hwn a ddygasid o Jerwsalem gyda'r gaethglud a gaethgludasid gyd â Jechoneia brenin Jwda, yr hwn a ddarfuasai i Nebuchodonosor brenin Babilon ei gaethgludo.

7. Ac efe a fagasai Hadassa, honno yw Esther, merch ei ewythr ef frawd ei dad; canys nid oedd iddi dad na mam: a'r llances oedd weddeiddlwys, a glân yr olwg; a phan fuasai ei thad a'i mam hi farw, Mordecai a'i cymerasai hi yn ferch iddo.

8. A phan gyhoeddwyd gair y brenin a'i gyfraith, pan gasglasid hefyd lancesau lawer i Susan y brenhinllys dan law Hegai, cymerwyd Esther i dŷ y brenin, dan law Hegai ceidwad y gwragedd.

Darllenwch bennod gyflawn Esther 2