10. Ar y seithfed dydd, pan oedd lawen calon y brenin gan win, efe a ddywedodd wrth Mehuman, Bistha, Harbona, Bigtha, ac Abagtha, Sethar, a Charcas, y saith ystafellydd oedd yn gweini gerbron y brenin Ahasferus,
11. Am gyrchu y frenhines Fasti o flaen y brenin, yn y frenhinol goron, i ddangos i'r bobloedd ac i'r tywysogion ei glendid hi: canys glân yr olwg ydoedd hi.
12. Ond y frenhines Fasti a wrthododd ddyfod wrth air y brenin trwy law ei ystafellyddion: am hynny y llidiodd y brenin yn ddirfawr, a'i ddicllonedd ef a enynnodd ynddo.
13. Yna y dywedodd y brenin wrth y doethion oedd yn gwybod yr amserau, (canys felly yr oedd arfer y brenin tuag at bob rhai a fyddai yn gwybod cyfraith a barn:
14. A nesaf ato ef oedd Carsena, Sethar, Admatha, Tarsis, Meres, Marsena, a Memuchan, saith dywysog Persia a Media, y rhai oedd yn gweled wyneb y brenin, ac yn eistedd yn gyntaf yn y frenhiniaeth;)
15. Beth sydd i'w wneuthur wrth y gyfraith i'r frenhines Fasti, am na wnaeth hi archiad y brenin Ahasferus trwy law yr ystafellyddion?
16. Yna Memuchan a ddywedodd gerbron y brenin a'r tywysogion, Nid yn erbyn y brenin yn unig y gwnaeth Fasti y frenhines ar fai, ond yn erbyn yr holl dywysogion hefyd, a'r holl bobloedd sydd trwy holl daleithiau y brenin Ahasferus.
17. Canys gweithred y frenhines a â allan at yr holl wragedd, fel y tremygant eu gwŷr yn eu golwg eu hun, pan ddywedant, Y brenin Ahasferus a archodd gyrchu Fasti y frenhines o'i flaen; ond ni ddaeth hi.
18. Arglwyddesau Persia a Media, y rhai a glywsant weithred y frenhines, a ddywedant heddiw wrth holl dywysogion y brenin. Felly y bydd mwy na digon o ddirmyg a dicter.
19. Os bydd bodlon gan y brenin, eled brenhinol orchymyn oddi wrtho ef, ac ysgrifenner ef ymysg cyfreithiau y Persiaid a'r Mediaid, fel na throsedder ef, na ddêl Fasti mwy gerbron y brenin Ahasferus; a rhodded y brenin ei brenhinfraint hi i'w chyfeilles yr hon sydd well na hi.
20. A phan glywer gorchymyn y brenin, yr hwn a wnelo efe, trwy ei holl frenhiniaeth, (yr hon sydd fawr,) yna yr holl wragedd a roddant anrhydedd i'w gwŷr, o'r mwyaf hyd y lleiaf.
21. A da oedd y peth yng ngolwg y brenin a'r tywysogion; a'r brenin a wnaeth yn ôl gair Memuchan:
22. Canys efe a anfonodd lythyrau i holl daleithiau y brenin, ie, i bob talaith yn ôl ei ysgrifen, ac at bob pobl yn ôl eu tafodiaith eu hun; ar fod pob gŵr yn arglwyddiaethu yn ei dŷ ei hun; a chyhoeddi hyn yn ôl tafodiaith pob rhyw bobl.