Hen Destament

Testament Newydd

Esther 1:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yn nyddiau Ahasferus, (efe yw Ahasferus yr hwn oedd yn teyrnasu o India hyd Ethiopia, sef ar gant a saith ar hugain o daleithiau;)

2. Yn y dyddiau hynny, pan eisteddodd y brenin Ahasferus ar orseddfa ei frenhiniaeth, yr hon oedd yn Susan y brenhinllys,

3. Yn y drydedd flwyddyn o'i deyrnasiad, efe a wnaeth wledd i'w holl dywysogion a'i weision; cadernid Persia, a Media, y rhaglawiaid, a thywysogion y taleithiau, oedd ger ei fron ef:

4. Fel y dangosai efe gyfoeth a gogoniant ei deyrnas, ac anrhydedd a phrydferthwch ei fawredd, ddyddiau lawer, sef cant a phedwar ugain o ddyddiau.

5. Ac wedi gorffen y dyddiau hynny, y brenin a wnaeth i'r holl bobl a gafwyd yn Susan y brenhinllys, o'r mwyaf hyd y lleiaf, wledd dros saith niwrnod, yng nghyntedd gardd palas y brenin:

6. Lle yr oedd llenni gwynion, gwyrddion, a rhuddgochion, wedi eu clymu â llinynnau sidan, ac â phorffor, wrth fodrwyau arian, a cholofnau marmor: y gwelyau oedd o aur ac arian, ar balmant o faen grisial, a marmor, ac alabaster, a iasinct.

7. Ac yfed diod yr oeddynt mewn llestri aur, a chyfnewid amryw lestri, a gwin brenhinol lawer, yn ôl gallu y brenin.

8. Yr yfed hefyd oedd wrth ddefod, nid oedd neb yn cymell: canys gosodasai y brenin orchymyn ar bob swyddwr o fewn ei dŷ, ar wneuthur yn ôl ewyllys pawb.

9. Y frenhines Fasti hefyd a wnaeth wledd i'r gwragedd yn y brenhindy oedd eiddo Ahasferus y brenin.

10. Ar y seithfed dydd, pan oedd lawen calon y brenin gan win, efe a ddywedodd wrth Mehuman, Bistha, Harbona, Bigtha, ac Abagtha, Sethar, a Charcas, y saith ystafellydd oedd yn gweini gerbron y brenin Ahasferus,

Darllenwch bennod gyflawn Esther 1