Hen Destament

Testament Newydd

Esra 5:2-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Yna Sorobabel mab Salathiel, a Jesua mab Josadac, a godasant, ac a ddechreuasant adeiladu tŷ Dduw yr hwn sydd yn Jerwsalem: a phroffwydi Duw oedd gyda hwynt yn eu cynorthwyo.

3. Y pryd hwnnw y daeth atynt hwy Tatnai tywysog y tu yma i'r afon, a Setharbosnai, a'u cyfeillion, ac fel hyn y dywedasant wrthynt; Pwy a roddes i chwi orchymyn i adeiladu y tŷ hwn, ac i sylfaenu y muriau hyn?

4. Yna fel hyn y dywedasom wrthynt; Beth yw enwau y gwŷr a adeiladant yr adeiladaeth yma?

5. A golwg eu Duw oedd ar henuriaid yr Iddewon, fel na wnaethant iddynt beidio, nes dyfod yr achos at Dareius: ac yna yr atebasant trwy lythyr am hyn.

6. Ystyr y llythyr a anfonodd Tatnai tywysog y tu yma i'r afon, a Setharbosnai, a'i gyfeillion yr Affarsachiaid, y rhai oedd o'r tu yma i'r afon, at y brenin Dareius:

7. Anfonasant lythyr ato ef, ac fel hyn yr ysgrifenasid ynddo; Pob heddwch i'r brenin Dareius.

8. Bydded hysbys i'r brenin, fyned ohonom ni i dalaith Jwdea, i dŷ y Duw mawr, a bod yn ei adeiladu ef â meini mawr, a bod yn gosod coed yn ei barwydydd ef; a bod y gwaith yn myned rhagddo ar frys, a'i fod yn llwyddo yn eu dwylo hwynt.

9. Yna y gofynasom i'r henuriaid hynny, ac a ddywedasom wrthynt fel hyn; Pwy a roddes i chwi orchymyn i adeiladu y tŷ hwn, ac i sylfaenu y mur yma?

10. Gofynasom hefyd iddynt eu henwau, fel yr hysbysem i ti, ac fel yr ysgrifennem enwau y gwŷr oedd yn bennau iddynt.

11. A'r geiriau hyn a atebasant hwy i ni, gan ddywedyd, Nyni ydym weision Duw nef a daear, ac yn adeiladu y tŷ yr hwn a adeiladwyd cyn hyn lawer o flynyddoedd; a brenin mawr o Israel a'i hadeiladodd, ac a'i seiliodd ef.

12. Eithr wedi i'n tadau ni ddigio Duw y nefoedd, efe a'u rhoddes hwynt yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, y Caldead; a'r tŷ hwn a ddinistriodd efe, ac a gaethgludodd y bobl i Babilon.

13. Ond yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Babilon y rhoddes y brenin Cyrus orchymyn i adeiladu y tŷ Dduw hwn.

Darllenwch bennod gyflawn Esra 5