Hen Destament

Testament Newydd

Esra 5:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna y proffwydi, Haggai y proffwyd, a Sechareia mab Ido, a broffwydasant i'r Iddewon oedd yn Jwda ac yn Jerwsalem; yn enw Duw Israel y proffwydasant iddynt.

2. Yna Sorobabel mab Salathiel, a Jesua mab Josadac, a godasant, ac a ddechreuasant adeiladu tŷ Dduw yr hwn sydd yn Jerwsalem: a phroffwydi Duw oedd gyda hwynt yn eu cynorthwyo.

3. Y pryd hwnnw y daeth atynt hwy Tatnai tywysog y tu yma i'r afon, a Setharbosnai, a'u cyfeillion, ac fel hyn y dywedasant wrthynt; Pwy a roddes i chwi orchymyn i adeiladu y tŷ hwn, ac i sylfaenu y muriau hyn?

4. Yna fel hyn y dywedasom wrthynt; Beth yw enwau y gwŷr a adeiladant yr adeiladaeth yma?

5. A golwg eu Duw oedd ar henuriaid yr Iddewon, fel na wnaethant iddynt beidio, nes dyfod yr achos at Dareius: ac yna yr atebasant trwy lythyr am hyn.

6. Ystyr y llythyr a anfonodd Tatnai tywysog y tu yma i'r afon, a Setharbosnai, a'i gyfeillion yr Affarsachiaid, y rhai oedd o'r tu yma i'r afon, at y brenin Dareius:

7. Anfonasant lythyr ato ef, ac fel hyn yr ysgrifenasid ynddo; Pob heddwch i'r brenin Dareius.

8. Bydded hysbys i'r brenin, fyned ohonom ni i dalaith Jwdea, i dŷ y Duw mawr, a bod yn ei adeiladu ef â meini mawr, a bod yn gosod coed yn ei barwydydd ef; a bod y gwaith yn myned rhagddo ar frys, a'i fod yn llwyddo yn eu dwylo hwynt.

9. Yna y gofynasom i'r henuriaid hynny, ac a ddywedasom wrthynt fel hyn; Pwy a roddes i chwi orchymyn i adeiladu y tŷ hwn, ac i sylfaenu y mur yma?

Darllenwch bennod gyflawn Esra 5