1. A phan ddaeth y seithfed mis, a meibion Israel yn eu dinasoedd, y bobl a ymgasglasant i Jerwsalem megis un gŵr.
2. Yna y cyfododd Jesua mab Josadac, a'i frodyr yr offeiriaid, a Sorobabel mab Salathiel, a'i frodyr, ac a adeiladasant allor Duw Israel, i offrymu arni offrymau poeth, fel yr ysgrifenasid yng nghyfraith Moses gŵr Duw.
3. A hwy a osodasant yr allor ar ei hystolion, (canys yr oedd arnynt ofn pobl y wlad,) ac a offrymasant arni boethoffrymau i'r Arglwydd, poethoffrymau bore a hwyr.
4. Cadwasant hefyd ŵyl y pebyll, fel y mae yn ysgrifenedig, ac a offrymasant boethaberth beunydd dan rifedi, yn ôl y ddefod, dogn dydd yn ei ddydd;
5. Ac wedi hynny y poethoffrwm gwastadol, ac offrwm y newyddloerau, a holl sanctaidd osodedig wyliau yr Arglwydd, offrwm ewyllysgar pob un a offrymai ohono ei hun, a offrymasant i'r Arglwydd.
6. O'r dydd cyntaf i'r seithfed mis y dechreuasant offrymu poethoffrymau i'r Arglwydd. Ond teml yr Arglwydd ni sylfaenasid eto.