Hen Destament

Testament Newydd

Esra 2:64-70 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

64. Yr holl dyrfa ynghyd, oedd ddwy fil a deugain tri chant a thrigain:

65. Heblaw eu gweision a'u morynion; y rhai hynny oedd saith mil tri chant a dau ar bymtheg ar hugain: ac yn eu mysg yr oedd dau cant yn gantorion ac yn gantoresau.

66. Eu meirch oedd saith gant ac onid pedwar deugain; eu mulod yn ddau cant ac yn bump a deugain;

67. Eu camelod yn bedwar cant ac yn bymtheg ar hugain; eu hasynnod yn chwe mil saith gant ac ugain.

68. Ac o'r pennau‐cenedl pan ddaethant i dŷ yr Arglwydd, yr hwn oedd yn Jerwsalem, rhai a offrymasant o'u gwaith eu hun tuag at dŷ yr Arglwydd, i'w gyfodi yn ei le.

69. Rhoddasant yn ôl eu gallu i drysordy y gwaith, un fil a thrigain o ddracmonau aur, a phum mil o bunnoedd o arian, a chant o wisgoedd offeiriaid.

70. Yna yr offeiriaid a'r Lefiaid, a rhai o'r bobl, a'r cantorion, a'r porthorion, a'r Nethiniaid, a drigasant yn eu dinasoedd; a holl Israel yn eu dinasoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Esra 2