Hen Destament

Testament Newydd

Esra 2:44-64 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

44. Meibion Ceros, meibion Sïaha, meibion Padon,

45. Meibion Lebana, meibion Hagaba, meibion Accub,

46. Meibion Hagab, meibion Samlai, meibion Hanan,

47. Meibion Gidel, meibion Gahar, meibion Reaia,

48. Meibion Resin, meibion Necoda, meibion Gassam,

49. Meibion Ussa, meibion Pasea, meibion Besai,

50. Meibion Asna, meibion Mehunim, meibion Neffusim,

51. Meibion Bacbuc, meibion Hacuffa, meibion Harhur,

52. Meibion Basluth, meibion Mehida, meibion Harsa,

53. Meibion Barcos, meibion Sisera, meibion Thama,

54. Meibion Neseia, meibion Hatiffa.

55. Meibion gweision Solomon: meibion Sotai meibion Soffereth, meibion Peruda,

56. Meibion Jaala, meibion Darcon, meibion Gidel,

57. Meibion Seffatia, meibion Hattil, meibion Pochereth o Sebaim, meibion Ami.

58. Yr holl Nethiniaid, a meibion gweision Solomon, oedd dri chant deuddeg a phedwar ugain.

59. A'r rhai hyn a aethant i fyny o Tel‐mela, Tel‐harsa, Cerub, Adan, ac Immer: ond ni fedrent ddangos tŷ eu tadau, na'u hiliogaeth, ai o Israel yr oeddynt:

60. Meibion Delaia, meibion Tobeia, meibion Necoda, chwe chant a deuddeg a deugain.

61. A meibion yr offeiriaid: meibion Habaia, meibion Cos, meibion Barsilai; yr hwn a gymerasai wraig o ferched Barsilai y Gileadiad, ac a alwasid ar eu henw hwynt.

62. Y rhai hyn a geisiasant eu hysgrifen ymhlith yr achau, ond ni chafwyd hwynt: am hynny y bwriwyd hwynt allan o'r offeiriadaeth.

63. A'r Tirsatha a ddywedodd wrthynt, na fwytaent o'r pethau sancteiddiaf, hyd oni chyfodai offeiriad ag Urim ac â Thummim.

64. Yr holl dyrfa ynghyd, oedd ddwy fil a deugain tri chant a thrigain:

Darllenwch bennod gyflawn Esra 2