Hen Destament

Testament Newydd

Esra 2:32-46 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

32. Meibion Harim, tri chant ac ugain.

33. Meibion Lod, Hadid, ac Ono, saith gant a phump ar hugain.

34. Meibion Jericho, tri chant a phump a deugain.

35. Meibion Senaa, tair mil a chwe chant a deg ar hugain.

36. Yr offeiriaid: meibion Jedaia, o dŷ Jesua, naw cant deg a thrigain a thri.

37. Meibion Immer, mil a deuddeg a deugain.

38. Meibion Pasur, mil dau cant a saith a deugain.

39. Meibion Harim, mil a dau ar bymtheg.

40. Y Lefiaid: meibion Jesua a Chadmiel, o feibion Hodafia, pedwar ar ddeg a thrigain.

41. Y cantoriaid: meibion Asaff, cant ac wyth ar hugain.

42. Meibion y porthorion: sef meibion Salum, meibion Ater, meibion Talmon, meibion Accub, meibion Hatita, meibion Sobai, oedd oll gant ac onid un deugain.

43. Y Nethiniaid: meibion Siha, meibion Hasuffa, meibion Tabbaoth,

44. Meibion Ceros, meibion Sïaha, meibion Padon,

45. Meibion Lebana, meibion Hagaba, meibion Accub,

46. Meibion Hagab, meibion Samlai, meibion Hanan,

Darllenwch bennod gyflawn Esra 2