26. Meibion Rama a Gaba, chwe chant ac un ar hugain.
27. Gwŷr Michmas, cant a dau ar hugain.
28. Gwŷr Bethel ac Ai, dau cant a thri ar hugain.
29. Meibion Nebo, deuddeg a deugain.
30. Meibion Magbis, cant ac onid pedwar trigain.
31. Meibion Elam arall, mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain.
32. Meibion Harim, tri chant ac ugain.
33. Meibion Lod, Hadid, ac Ono, saith gant a phump ar hugain.
34. Meibion Jericho, tri chant a phump a deugain.
35. Meibion Senaa, tair mil a chwe chant a deg ar hugain.
36. Yr offeiriaid: meibion Jedaia, o dŷ Jesua, naw cant deg a thrigain a thri.
37. Meibion Immer, mil a deuddeg a deugain.
38. Meibion Pasur, mil dau cant a saith a deugain.
39. Meibion Harim, mil a dau ar bymtheg.
40. Y Lefiaid: meibion Jesua a Chadmiel, o feibion Hodafia, pedwar ar ddeg a thrigain.
41. Y cantoriaid: meibion Asaff, cant ac wyth ar hugain.
42. Meibion y porthorion: sef meibion Salum, meibion Ater, meibion Talmon, meibion Accub, meibion Hatita, meibion Sobai, oedd oll gant ac onid un deugain.
43. Y Nethiniaid: meibion Siha, meibion Hasuffa, meibion Tabbaoth,