1. A dyma feibion y dalaith y rhai a ddaeth i fyny o gaethiwed y gaethglud, yr hon a gaethgludasai Nebuchodonosor brenin Babilon i Babilon, ac a ddychwelasant i Jerwsalem a Jwda, pob un i'w ddinas ei hun;
2. Y rhai a ddaeth gyda Sorobabel: Jesua, Nehemeia, Seraia, Reelaia, Mordecai, Bilsan, Mispar, Bigfai, Rehum, Baana. Rhifedi gwŷr pobl Israel:
3. Meibion Paros, dwy fil a deuddeg ac wyth ugain.
4. Meibion Seffatia, tri chant a deuddeg a thrigain.
5. Meibion Ara, saith gant a phymtheg a thrigain.