Hen Destament

Testament Newydd

Esra 10:4-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Cyfod; canys arnat ti y mae y peth: a ni a fyddwn gyda thi: ymwrola, a gwna.

5. Yna y cyfododd Esra, ac a dyngodd benaethiaid yr offeiriaid a'r Lefiaid, a holl Israel, ar wneuthur yn ôl y peth hyn. A hwy a dyngasant.

6. Yna y cyfododd Esra o flaen tŷ Dduw, ac a aeth i ystafell Johanan mab Eliasib: a phan ddaeth yno, ni fwytaodd fara, ac nid yfodd ddwfr; canys galaru yr oedd am gamwedd y gaethglud.

7. A chyhoeddasant yn Jwda a Jerwsalem, ar i holl feibion y gaethglud ymgasglu i Jerwsalem;

8. A phwy bynnag ni ddelai o fewn tridiau, yn ôl cyngor y penaethiaid a'r henuriaid, efe a gollai ei holl olud, ac yntau a ddidolid oddi wrth gynulleidfa y rhai a gaethgludasid.

9. Felly holl wŷr Jwda a Benjamin a ymgasglasant i Jerwsalem o fewn tridiau: hynny oedd y nawfed mis, ar yr ugeinfed dydd o'r mis; a'r holl bobl a eisteddasant yn heol tŷ Dduw, yn crynu o achos y peth hyn, ac o achos y glawogydd.

10. Ac Esra yr offeiriad a gyfododd, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a bechasoch, ac a gytaliasoch â gwragedd dieithr, gan ychwanegu ar bechod Israel.

11. Ac yn awr rhoddwch foliant i Arglwydd Dduw eich tadau, a gwnewch ei ewyllys ef; ac ysgerwch oddi wrth bobl y tir, ac oddi wrth y gwragedd dieithr.

12. A holl dyrfa Israel a atebasant, ac a ddywedasant â llef uchel, Yn ôl dy air di y mae arnom ni wneuthur.

13. Eithr y bobl sydd lawer, a'r amser yn lawog, ac ni ellir sefyll allan, ac nid gwaith un diwrnod na dau ydyw: canys pechasom yn ddirfawr yn y peth hyn.

14. Safed yn awr ein penaethiaid o'r holl dyrfa, a deued y rhai o'n dinasoedd a gytaliasant â gwragedd dieithr, ar amseroedd gosodedig, a henuriaid pob dinas, a'u barnwyr gyda hwynt, nes troi dicter ein Duw oddi wrthym am y peth hyn.

15. Yn unig Jonathan mab Asahel, a Jahaseia mab Ticfa, a osodwyd ar hyn: Mesulam hefyd a Sabbethai y Lefiad a'u cynorthwyasant hwy.

16. A meibion y gaethglud a wnaethant felly. Ac Esra yr offeiriad, a'r gwŷr oedd bennau‐cenedl tŷ eu tadau, a hwynt oll wrth eu henwau, a neilltuwyd, ac a eisteddasant ar y dydd cyntaf o'r degfed mis, i ymofyn am y peth hyn.

Darllenwch bennod gyflawn Esra 10