Hen Destament

Testament Newydd

Esra 10:16-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. A meibion y gaethglud a wnaethant felly. Ac Esra yr offeiriad, a'r gwŷr oedd bennau‐cenedl tŷ eu tadau, a hwynt oll wrth eu henwau, a neilltuwyd, ac a eisteddasant ar y dydd cyntaf o'r degfed mis, i ymofyn am y peth hyn.

17. A hwy a wnaethant ben â'r holl wŷr a gytaliasent â gwragedd dieithr, erbyn y dydd cyntaf o'r mis cyntaf.

18. A chafwyd o feibion yr offeiriaid, y rhai a gytaliasent â gwragedd dieithr: o feibion Jesua mab Josadac, a'i frodyr; Maaseia, ac Elieser, a Jarib, a Gedaleia.

19. A hwy a roddasant eu dwylo ar fwrw allan eu gwragedd; a chan iddynt bechu, a offrymasant hwrdd o'r praidd dros eu camwedd.

20. Ac o feibion Immer; Hanani, a Sebadeia.

21. Ac o feibion Harim; Maaseia, ac Eleia, a Semaia, a Jehiel, ac Usseia.

22. Ac o feibion Pasur; Elioenai, Maaseia, Ismael, Nethaneel, Josabad, ac Elasa.

23. Ac o'r Lefiaid; Josabad, a Simei, a Chelaia, (hwnnw yw Celita,) Pethaheia, Jwda, ac Elieser.

24. Ac o'r cantorion; Eliasib: ac o'r porthorion; Salum, a Thelem, ac Uri.

25. Ac o Israel: o feibion Paros; Rameia, a Jeseia, a Malcheia, a Miamin, ac Eleasar, a Malcheia, a Benaia.

26. Ac o feibion Elam; Mataneia, Sechareia, a Jehiel, ac Abdi, a Jeremoth, ac Eleia.

27. Ac o feibion Sattu; Elioenai, Eliasib, Mataneia, a Jeremoth, a Sabad, ac Asisa.

28. Ac o feibion Bebai; Jehohanan, Hananeia, Sabbai, ac Athlai.

29. Ac o feibion Bani; Mesulam, Maluch, ac Adaia, Jasub, a Seal, a Ramoth.

30. Ac o feibion Pahath‐Moab; Adna, a Chelal, Benaia, Maaseia, Mataneia, Besaleel, a Binnui, a Manasse.

31. Ac o feibion Harim; Elieser, Isia, Malcheia, Semaia, Simeon,

32. Benjamin, Maluch, a Semareia.

Darllenwch bennod gyflawn Esra 10