14. Safed yn awr ein penaethiaid o'r holl dyrfa, a deued y rhai o'n dinasoedd a gytaliasant â gwragedd dieithr, ar amseroedd gosodedig, a henuriaid pob dinas, a'u barnwyr gyda hwynt, nes troi dicter ein Duw oddi wrthym am y peth hyn.
15. Yn unig Jonathan mab Asahel, a Jahaseia mab Ticfa, a osodwyd ar hyn: Mesulam hefyd a Sabbethai y Lefiad a'u cynorthwyasant hwy.
16. A meibion y gaethglud a wnaethant felly. Ac Esra yr offeiriad, a'r gwŷr oedd bennau‐cenedl tŷ eu tadau, a hwynt oll wrth eu henwau, a neilltuwyd, ac a eisteddasant ar y dydd cyntaf o'r degfed mis, i ymofyn am y peth hyn.
17. A hwy a wnaethant ben â'r holl wŷr a gytaliasent â gwragedd dieithr, erbyn y dydd cyntaf o'r mis cyntaf.
18. A chafwyd o feibion yr offeiriaid, y rhai a gytaliasent â gwragedd dieithr: o feibion Jesua mab Josadac, a'i frodyr; Maaseia, ac Elieser, a Jarib, a Gedaleia.
19. A hwy a roddasant eu dwylo ar fwrw allan eu gwragedd; a chan iddynt bechu, a offrymasant hwrdd o'r praidd dros eu camwedd.
20. Ac o feibion Immer; Hanani, a Sebadeia.
21. Ac o feibion Harim; Maaseia, ac Eleia, a Semaia, a Jehiel, ac Usseia.
22. Ac o feibion Pasur; Elioenai, Maaseia, Ismael, Nethaneel, Josabad, ac Elasa.
23. Ac o'r Lefiaid; Josabad, a Simei, a Chelaia, (hwnnw yw Celita,) Pethaheia, Jwda, ac Elieser.