Hen Destament

Testament Newydd

Esra 1:4-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. A phwy bynnag a adawyd mewn un man lle y mae efe yn ymdeithio, cynorthwyed gwŷr ei wlad ef ag arian, ac ag aur, ac â golud, ac ag anifeiliaid, gydag ewyllysgar offrwm tŷ Dduw, yr hwn sydd yn Jerwsalem.

5. Yna y cododd pennau‐cenedl Jwda a Benjamin, a'r offeiriaid a'r Lefiaid, a phob un y cyffrôdd Duw ei ysbryd, i fyned i fyny i adeiladu tŷ yr Arglwydd yr hwn oedd yn Jerwsalem.

6. A'r rhai oll o'u hamgylch a'u cynorthwyasant hwy â llestri arian, ac aur, a golud, ac ag anifeiliaid, ac â phethau gwerthfawr, heblaw yr hyn oll a offrymwyd yn ewyllysgar.

7. A'r brenin Cyrus a ddug allan lestri tŷ yr Arglwydd, y rhai a ddygasai Nebuchodonosor allan o Jerwsalem, ac a roddasai efe yn nhŷ ei dduwiau ei hun:

8. Y rhai hynny a ddug Cyrus brenin Persia allan trwy law Mithredath y trysorydd, ac a'u rhifodd hwynt at Sesbassar pennaeth Jwda.

9. A dyma eu rhifedi hwynt; Deg ar hugain o gawgiau aur, mil o gawgiau arian, naw ar hugain o gyllyll,

10. Deg ar hugain o orflychau aur, deg a phedwar cant o ail fath o orflychau arian, a mil o lestri eraill.

Darllenwch bennod gyflawn Esra 1