10. Y priddfeini a syrthiasant, ond â cherrig nadd yr adeiladwn: y sycamorwydd a dorrwyd, ond ni a'u newidiwn yn gedrwydd.
11. Am hynny yr Arglwydd a ddyrchafa wrthwynebwyr Resin yn ei erbyn ef, ac a gysyllta ei elynion ef ynghyd;
12. Y Syriaid o'r blaen, a'r Philistiaid hefyd o'r ôl: a hwy a ysant Israel yn safnrhwth. Er hyn i gyd ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig.
13. A'r bobl ni ddychwelant at yr hwn a'u trawodd, ac ni cheisiant Arglwydd y lluoedd.
14. Am hynny y tyr yr Arglwydd oddi wrth Israel ben a chynffon, cangen a brwynen, yn yr un dydd.
15. Yr henwr a'r anrhydeddus yw y pen: a'r proffwyd sydd yn dysgu celwydd, efe yw y gynffon.
16. Canys cyfarwyddwyr y bobl hyn sydd yn peri iddynt gyfeiliorni, a llyncwyd y rhai a gyfarwyddir ganddynt.
17. Am hynny nid ymlawenha yr Arglwydd yn eu gwŷr ieuainc hwy, ac wrth eu hamddifaid a'u gweddwon ni thosturia: canys pob un ohonynt sydd ragrithiwr a drygionus, a phob genau yn traethu ynfydrwydd. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig.
18. Oherwydd anwiredd a lysg fel tân; y mieri a'r drain a ysa efe, ac a gynnau yn nrysni y coed; a hwy a ddyrchafant fel ymddyrchafiad mwg.
19. Gan ddigofaint Arglwydd y lluoedd y tywylla y ddaear, ac y bydd y bobl fel ymborth tân: nid eiriach neb ei frawd.
20. Ac efe a gipia ar y llaw ddeau, ac a newyna; bwyty hefyd ar y llaw aswy, ac nis digonir hwynt: bwytânt bawb gig ei fraich ei hun:
21. Manasse, Effraim; ac Effraim, Manasse: hwythau ynghyd yn erbyn Jwda. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig.