14. Am hynny yr Arglwydd ei hun a ddyry i chwi arwydd; Wele, morwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab, ac a eilw ei enw ef, Immanuel.
15. Ymenyn a mêl a fwyty efe; fel y medro ymwrthod â'r drwg, ac ethol y da.
16. Canys cyn medru o'r bachgen ymwrthod â'r drwg, ac ethol y da, y gwrthodir y wlad a ffieiddiaist, gan ei dau frenin.
17. Yr Arglwydd a ddwg arnat ti, ac ar dy bobl, ac ar dŷ dy dadau, ddyddiau ni ddaethant er y dydd yr ymadawodd Effraim oddi wrth Jwda, sef brenin Asyria.
18. A bydd yn y dydd hwnnw, i'r Arglwydd chwibanu am y gwybedyn sydd yn eithaf afonydd yr Aifft, ac am y wenynen sydd yn nhir Asyria:
19. A hwy a ddeuant ac a orffwysant oll yn y dyffrynnoedd anghyfanheddol, ac yng nghromlechydd y creigiau, ac yn yr ysbyddaid oll, ac yn y perthi oll.
20. Yn y dydd hwnnw yr eillia yr Arglwydd â'r ellyn a gyflogir, sef â'r rhai o'r tu hwnt i'r afon, sef â brenin Asyria, y pen, a blew y traed; a'r farf hefyd a ddifa efe.
21. A bydd yn y dydd hwnnw, i ŵr fagu anner‐fuwch, a dwy ddafad:
22. Bydd hefyd o amlder y llaeth a roddant, iddo fwyta ymenyn: canys ymenyn a mêl a fwyty pawb a adewir o fewn y tir.