1. A bu yn nyddiau Ahas mab Jotham, mab Usseia brenin Jwda, ddyfod o Resin brenin Syria, a Pheca mab Remaleia, brenin Israel, i fyny tua Jerwsalem, i ryfela arni: ond ni allodd ei gorchfygu.
2. A mynegwyd i dŷ Dafydd, gan ddywedyd, Syria a gydsyniodd ag Effraim. A'i galon ef a gyffrôdd, a chalon ei bobl, megis y cynhyrfa prennau y coed o flaen y gwynt.
3. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Eseia, Dos allan yr awr hon i gyfarfod Ahas, ti a Sear‐jasub dy fab, wrth ymyl pistyll y llyn uchaf, ym mhriffordd maes y pannwr:
4. A dywed wrtho, Ymgadw, a bydd lonydd; nac ofna, ac na feddalhaed dy galon, rhag dwy gloren y pentewynion myglyd hyn, rhag angerdd llid Resin, a Syria, a mab Remaleia:
5. Canys Syria, ac Effraim, a mab Remaleia, a ymgynghorodd gyngor drwg yn dy erbyn, gan ddywedyd,
6. Esgynnwn yn erbyn Jwda, a blinwn hi, torrwn hi hefyd atom, a gosodwn frenin yn ei chanol hi; sef mab Tabeal.
7. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ni saif, ac ni bydd hyn.
8. Canys pen Syria yw Damascus, a phen Damascus yw Resin; ac o fewn pum mlynedd a thrigain y torrir Effraim rhag bod yn bobl.
9. Hefyd pen Effraim yw Samaria, a phen Samaria yw mab Remaleia. Oni chredwch, diau ni sicrheir chwi.
10. A'r Arglwydd a chwanegodd lefaru wrth Ahas gan ddywedyd,
11. Gofyn i ti arwydd gan yr Arglwydd dy Dduw; gofyn o'r dyfnder, neu o'r uchelder oddi arnodd.
12. Ond Ahas a ddywedodd, Ni ofynnaf, ac ni themtiaf yr Arglwydd.
13. A dywedodd yntau, Gwrandewch yr awr hon, tŷ Dafydd; Ai bychan gennych flino dynion, oni flinoch hefyd fy Nuw?
14. Am hynny yr Arglwydd ei hun a ddyry i chwi arwydd; Wele, morwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab, ac a eilw ei enw ef, Immanuel.
15. Ymenyn a mêl a fwyty efe; fel y medro ymwrthod â'r drwg, ac ethol y da.