Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 66:8-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Pwy a glybu y fath beth â hyn? pwy a welodd y fath bethau â hyn? A wneir i'r ddaear dyfu mewn un dydd? a enir cenedl ar unwaith? Pan glafychodd Seion, yr esgorodd hefyd ar ei meibion.

9. A ddygaf fi i'r enedigaeth, ac oni pharaf esgor? medd yr Arglwydd: a baraf fi esgor, ac a luddiaf? medd dy Dduw.

10. Llawenhewch gyda Jerwsalem, a byddwch hyfryd gyda hi, y rhai oll a'i cerwch hi: llawenhewch gyda hi yn llawen, y rhai oll a alerwch o'i phlegid hi:

11. Fel y sugnoch, ac y'ch diwaller â bronnau ei diddanwch hi; fel y godroch, ac y byddoch hyfryd gan helaethrwydd ei gogoniant hi.

12. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele, mi a estynnaf iddi heddwch fel afon, a gogoniant y cenhedloedd fel ffrwd lifeiriol: yna y sugnwch, ar ei hystlys hi y'ch dygir, ac ar ei gliniau y'ch diddenir.

13. Fel un yr hwn y diddana ei fam ef, felly y diddanaf fi chwi; ac yn Jerwsalem y'ch diddenir.

14. A phan weloch hyn, y llawenycha eich calon; eich esgyrn hefyd a flodeuant fel llysieuyn: ac fe adwaenir llaw yr Arglwydd tuag at ei weision, a'i lidiowgrwydd wrth ei elynion.

15. Canys, wele, yr Arglwydd a ddaw â thân, ac â'i gerbydau fel trowynt, i dalu ei ddicter â llidiowgrwydd, a'i gerydd â fflamau tân.

16. Canys yr Arglwydd a ymddadlau â thân ac â'i gleddyf yn erbyn pob cnawd; a lladdedigion yr Arglwydd fyddant aml.

17. Y rhai a ymsancteiddiant, ac a ymlanhânt yn y gerddi, yn ôl ei gilydd, yn y canol, gan fwyta cig moch, a ffieidd‐dra, a llygod, a gyd‐ddiweddir, medd yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 66