Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 66:14-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. A phan weloch hyn, y llawenycha eich calon; eich esgyrn hefyd a flodeuant fel llysieuyn: ac fe adwaenir llaw yr Arglwydd tuag at ei weision, a'i lidiowgrwydd wrth ei elynion.

15. Canys, wele, yr Arglwydd a ddaw â thân, ac â'i gerbydau fel trowynt, i dalu ei ddicter â llidiowgrwydd, a'i gerydd â fflamau tân.

16. Canys yr Arglwydd a ymddadlau â thân ac â'i gleddyf yn erbyn pob cnawd; a lladdedigion yr Arglwydd fyddant aml.

17. Y rhai a ymsancteiddiant, ac a ymlanhânt yn y gerddi, yn ôl ei gilydd, yn y canol, gan fwyta cig moch, a ffieidd‐dra, a llygod, a gyd‐ddiweddir, medd yr Arglwydd.

18. Canys mi a adwaen eu gweithredoedd hwynt a'u meddyliau: y mae yr amser yn dyfod, i gasglu yr holl genhedloedd a'r ieithoedd; a hwy a ddeuant, ac a welant fy ngogoniant.

19. A gosodaf yn eu mysg arwydd, ac anfonaf y rhai dihangol ohonynt at y cenhedloedd, i Tarsis, Affrica, a Lydia, y rhai a dynnant mewn bwa, i Italia, a Groeg, i'r ynysoedd pell, y rhai ni chlywsant sôn amdanaf, ac ni welsant fy ngogoniant; a mynegant fy ngogoniant ymysg y cenhedloedd.

20. A hwy a ddygant eich holl frodyr o blith yr holl genhedloedd, yn offrwm i'r Arglwydd, ar feirch, ac ar gerbydau, ac ar elorau meirch, ac ar fulod, ac ar anifeiliaid buain, i'm mynydd sanctaidd Jerwsalem, medd yr Arglwydd, megis y dwg meibion Israel offrwm mewn llestr glân i dŷ yr Arglwydd.

21. Ac ohonynt hwy y cymeraf rai yn offeiriaid ac yn Lefiaid, medd yr Arglwydd.

22. Canys megis y saif ger fy mron y nefoedd newydd a'r ddaear newydd, y rhai a wnaf fi, medd yr Arglwydd, felly y saif eich had chwi, a'ch enw chwi.

23. Bydd hefyd o newyddloer i newyddloer, ac o Saboth i Saboth, i bob cnawd ddyfod i addoli ger fy mron i, medd yr Arglwydd.

24. A hwy a ânt allan, ac a edrychant ar gelanedd y rhai a wnaethant gamwedd i'm herbyn: canys eu pryf ni bydd marw, a'u tân ni ddiffydd; a byddant yn ffieidd‐dra gan bob cnawd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 66