Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 66:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Y nef yw fy ngorseddfainc, a'r ddaear yw lleithig fy nhraed: mae y tŷ a adeiledwch i mi? ac mae y fan y gorffwysaf?

2. Canys y pethau hyn oll a wnaeth fy llaw, a thrwof fi y mae hyn oll, medd yr Arglwydd: ond ar hwn yr edrychaf, sef ar y truan a'r cystuddiedig o ysbryd, ac sydd yn crynu wrth fy ngair.

3. Yr hwn a laddo ych, sydd fel yr hwn a laddo ŵr; yr hwn a abertho oen, sydd fel yr hwn a dorfynyglo gi; yr hwn a offrymo offrwm, sydd fel ped offrymai waed moch; yr hwn a arogldartho thus, sydd fel pe bendigai eilun: ie, hwy a ddewisasant eu ffyrdd eu hun, a'u henaid a ymhyfrydodd yn eu ffieidd‐dra.

4. Minnau a ddewisaf eu dychmygion hwynt, ac a ddygaf arnynt yr hyn a ofnant: am alw ohonof, ac nid oedd a atebai; lleferais, ac ni wrandawsant: eithr gwnaethant yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg, a'r hyn nid oedd dda gennyf a ddewisasant.

5. Gwrandewch air yr Arglwydd, y rhai a grynwch wrth ei air ef; Eich brodyr y rhai a'ch casasant, ac a'ch gyrasant ar encil er mwyn fy enw i, a ddywedasant, Gogonedder yr Arglwydd: eto i'ch llawenydd chwi y gwelir ef, a hwynt a waradwyddir.

6. Llef soniarus o'r ddinas, llef o'r deml, llef yr Arglwydd yn talu y pwyth i'w elynion.

7. Cyn ei chlafychu, yr esgorodd; cyn dyfod gwewyr arni, y rhyddhawyd hi ar fab.

8. Pwy a glybu y fath beth â hyn? pwy a welodd y fath bethau â hyn? A wneir i'r ddaear dyfu mewn un dydd? a enir cenedl ar unwaith? Pan glafychodd Seion, yr esgorodd hefyd ar ei meibion.

9. A ddygaf fi i'r enedigaeth, ac oni pharaf esgor? medd yr Arglwydd: a baraf fi esgor, ac a luddiaf? medd dy Dduw.

10. Llawenhewch gyda Jerwsalem, a byddwch hyfryd gyda hi, y rhai oll a'i cerwch hi: llawenhewch gyda hi yn llawen, y rhai oll a alerwch o'i phlegid hi:

11. Fel y sugnoch, ac y'ch diwaller â bronnau ei diddanwch hi; fel y godroch, ac y byddoch hyfryd gan helaethrwydd ei gogoniant hi.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 66