Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 64:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ona rwygit y nefoedd, a disgyn, fel y toddai'r mynyddoedd o'th flaen di,

2. Fel pan losgo'r tân greision, y pair y tân i'r dwfr ferwi; i hysbysu dy enw i'th wrthwynebwyr, fel yr ofno'r cenhedloedd rhagot!

3. Pan wnaethost bethau ofnadwy ni ddisgwyliasom amdanynt, y disgynnaist, a'r mynyddoedd a doddasant o'th flaen.

4. Ac erioed ni chlywsant, ni dderbyniasant â chlustiau, ac ni welodd llygad, O Dduw, ond tydi, yr hyn a ddarparodd efe i'r neb a ddisgwyl wrtho.

5. Cyfarfyddi â'r hwn sydd lawen, ac a wna gyfiawnder; y rhai yn dy ffyrdd a'th gofiant di: wele, ti a ddigiaist, pan bechasom: ynddynt hwy y mae para, a ni a fyddwn cadwedig.

6. Eithr yr ydym ni oll megis peth aflan, ac megis bratiau budron yw ein holl gyfiawnderau; a megis deilen y syrthiasom ni oll; a'n hanwireddau, megis gwynt, a'n dug ni ymaith.

7. Ac nid oes a alwo ar dy enw, nac a ymgyfyd i ymaflyd ynot: canys cuddiaist dy wyneb oddi wrthym; difeaist ni, oherwydd ein hanwireddau.

8. Ond yn awr, O Arglwydd, ein Tad ni ydwyt ti: nyni ydym glai, a thithau yw ein lluniwr ni; ie, gwaith dy law ydym ni oll.

9. Na ddigia, Arglwydd, yn ddirfawr, ac na chofia anwiredd yn dragywydd: wele, edrych, atolwg, dy bobl di ydym ni oll.

10. Dy sanctaidd ddinasoedd sydd anialwch; Seion sydd yn ddiffeithwch, a Jerwsalem yn anghyfannedd.

11. Tŷ ein sancteiddrwydd a'n harddwch ni, lle y moliannai ein tadau dydi, a losgwyd â thân; a'n holl bethau dymunol sydd yn anrhaith.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 64