Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 63:5-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Edrychais hefyd, ac nid oedd gynorthwywr; rhyfeddais hefyd am nad oedd gynhaliwr: yna fy mraich fy hun a'm hachubodd, a'm llidiowgrwydd a'm cynhaliodd.

6. A mi a sathraf y bobl yn fy nig, ac a'u meddwaf hwynt yn fy llidiowgrwydd; a'u cadernid a ddisgynnaf i'r llawr.

7. Cofiaf drugareddau yr Arglwydd, a moliant Duw, yn ôl yr hyn oll a roddodd Duw i ni, ac amlder ei ddaioni i dŷ Israel, yr hyn a roddodd efe iddynt yn ôl ei dosturiaethau, ac yn ôl amlder ei drugareddau.

8. Canys efe a ddywedodd, Diau fy mhobl ydynt hwy, meibion ni ddywedant gelwydd; felly efe a aeth yn Iachawdwr iddynt.

9. Yn eu holl gystudd hwynt efe a gystuddiwyd, ac angel ei gynddrychioldeb a'u hachubodd hwynt; yn ei gariad ac yn ei drugaredd y gwaredodd efe hwynt: efe a'u dygodd hwynt, ac a'u harweiniodd yr holl ddyddiau gynt.

10. Hwythau oeddynt wrthryfelgar, ac a ofidiasant ei Ysbryd sanctaidd ef: am hynny y trodd efe yn elyn iddynt, ac yr ymladdodd yn eu herbyn.

11. Yna y cofiodd efe y dyddiau gynt, Moses a'i bobl, gan ddywedyd, Mae yr hwn a'u dygodd hwynt i fyny o'r môr, gyda bugail ei braidd? mae yr hwn a osododd ei Ysbryd sanctaidd o'i fewn ef?

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 63