7. Ac na adewch ddistawrwydd iddo, hyd oni sicrhao, ac hyd oni osodo Jerwsalem yn foliant ar y ddaear.
8. Tyngodd yr Arglwydd i'w ddeheulaw, ac i'w fraich nerthol, Yn ddiau ni roddaf dy ŷd mwyach yn ymborth i'th elynion; a meibion dieithr nid yfant dy win, yr hwn y llafuriaist amdano:
9. Eithr y rhai a'i casglant a'i bwytânt, ac a foliannant yr Arglwydd; a'r rhai a'i cynullasant a'i hyfant o fewn cynteddoedd fy sancteiddrwydd.
10. Cyniweiriwch, cyniweiriwch trwy y pyrth: paratowch ffordd y bobl; palmentwch, palmentwch briffordd; digaregwch hi: cyfodwch faner i'r bobloedd.
11. Wele, yr Arglwydd a gyhoeddodd hyd eithaf y ddaear, Dywedwch wrth ferch Seion, Wele dy iachawdwriaeth yn dyfod, wele ei gyflog gydag ef, a'i waith o'i flaen.