Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 62:2-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. A'r cenhedloedd a welant dy gyfiawnder, a'r holl frenhinoedd dy ogoniant: yna y gelwir arnat enw newydd, yr hwn a enwa genau yr Arglwydd.

3. Byddi hefyd yn goron gogoniant yn llaw yr Arglwydd, ac yn dalaith frenhinol yn llaw dy Dduw.

4. Ni ddywedir amdanat mwy, Gwrthodedig; am dy dir hefyd ni ddywedir mwy, Anghyfannedd: eithr ti a elwir Heffsiba; a'th dir, Beula: canys y mae yr Arglwydd yn dy hoffi, a'th dir a briodir.

5. Canys fel y prioda gŵr ieuanc forwyn, y prioda dy feibion dydi; ac â llawenydd priodfab am briodferch, y llawenycha dy Dduw o'th blegid di.

6. Ar dy furiau di, Jerwsalem, y gosodais geidwaid, y rhai ni thawant ddydd na nos yn wastad: y rhai ydych yn cofio yr Arglwydd, na ddistewch,

7. Ac na adewch ddistawrwydd iddo, hyd oni sicrhao, ac hyd oni osodo Jerwsalem yn foliant ar y ddaear.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 62