6. Eu gweoedd hwy ni byddant yn wisgoedd, ac nid ymddilladant â'u gweithredoedd: eu gweithredoedd ydynt weithredoedd anwiredd, a gwaith trawster sydd yn eu dwylo.
7. Eu traed a redant i ddrygioni, a hwy a frysiant i dywallt gwaed gwirion: eu meddyliau sydd feddyliau anwir; distryw a dinistr sydd ar eu ffyrdd hwynt.
8. Ffordd heddwch nid adwaenant; ac nid oes gyfiawnder yn eu llwybrau: gwnaethant iddynt lwybrau ceimion: pwy bynnag a rodio yno, nid edwyn heddwch.
9. Am hynny y ciliodd barnedigaeth oddi wrthym, ac ni'n goddiweddodd cyfiawnder: disgwyliasom am oleuni, ac wele dywyllwch; am ddisgleirdeb, ac yn y fagddu yr ydym yn rhodio.
10. Palfalasom fel deillion â'r pared, ie, fel rhai heb lygaid y palfalasom: tramgwyddasom ar hanner dydd fel y cyfnos; oeddem mewn lleoedd anghyfannedd fel rhai meirw.
11. Nyni oll a ruasom fel eirth, a chan riddfan y griddfanasom fel colomennod: disgwyliasom am farn, ac nid oes dim: am iachawdwriaeth, ac ymbellhaodd oddi wrthym.
12. Canys amlhaodd ein camweddau ger dy fron, a thystiolaethodd ein pechodau i'n herbyn: oherwydd ein camweddau sydd gyda ni; a'n hanwireddau, ni a'u hadwaenom:
13. Camweddu, a dywedyd celwydd yn erbyn yr Arglwydd, a chilio oddi ar ôl ein Duw, dywedyd trawster ac anufudd‐dod, myfyrio a thraethu o'r galon eiriau gau.