Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 58:4-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Wele, i ymryson a chynnen yr ymprydiwch, ac i daro â dwrn anwiredd: nac ymprydiwch fel y dydd hwn, i beri clywed eich llais yn yr uchelder.

5. Ai dyma yr ympryd a ddewisais? dydd i ddyn i gystuddio ei enaid? ai crymu ei ben fel brwynen ydyw, a thaenu sachliain a lludw dano? ai hyn a elwi yn ympryd, ac yn ddiwrnod cymeradwy gan yr Arglwydd?

6. Onid dyma yr ympryd a ddewisais? datod rhwymau anwiredd, tynnu ymaith feichiau trymion, a gollwng y rhai gorthrymedig yn rhyddion, a thorri ohonoch bob iau?

7. Onid torri dy fara i'r newynog, a dwyn ohonot y crwydraid i dŷ? a phan welych y noeth, ei ddilladu; ac nad ymguddiech oddi wrth dy gnawd dy hun?

8. Yna y tyr dy oleuni allan fel y wawr, a'th iechyd a dardda yn fuan: a'th gyfiawnder a â o'th flaen; gogoniant yr Arglwydd a'th ddilyn.

9. Yna y gelwi, a'r Arglwydd a etyb; y gwaeddi, ac efe a ddywed, Wele fi. Os bwri o'th fysg yr iau, estyn bys, a dywedyd oferedd;

10. Os tynni allan dy enaid i'r newynog, a diwallu yr enaid cystuddiedig: yna dy oleuni a gyfyd mewn tywyllwch, a'th dywyllwch fydd fel hanner dydd:

11. A'r Arglwydd a'th arwain yn wastad, ac a ddiwalla dy enaid ar sychder, ac a wna dy esgyrn yn freision: a thi a fyddi fel gardd wedi ei dyfrhau, ac megis ffynnon ddwfr, yr hon ni phalla ei dyfroedd.

12. A'r rhai a fyddant ohonot ti a adeiladant yr hen ddiffeithleoedd; ti a gyfodi sylfeini llawer cenhedlaeth: a thi a elwir yn gaewr yr adwy, yn gyweiriwr llwybrau i gyfanheddu ynddynt.

13. O throi dy droed oddi wrth y Saboth, heb wneuthur dy ewyllys ar fy nydd sanctaidd; a galw y Saboth yn hyfrydwch, sanct yr Arglwydd yn ogoneddus; a'i anrhydeddu ef, heb wneuthur dy ffyrdd dy hun, heb geisio dy ewyllys dy hun, na dywedyd dy eiriau dy hun:

14. Yna yr ymhyfrydi yn yr Arglwydd, ac mi a wnaf i ti farchogaeth ar uchelfeydd y ddaear, ac a'th borthaf ag etifeddiaeth Jacob dy dad: canys genau yr Arglwydd a'i llefarodd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 58