Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 57:13-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Pan waeddech, gwareded dy gynulleidfaoedd di: eithr y gwynt a'u dwg hwynt ymaith oll; oferedd a'u cymer hwynt: ond yr hwn a obeithia ynof fi a etifedda y tir, ac a feddianna fynydd fy sancteiddrwydd.

14. Ac efe a ddywed, Palmentwch, palmentwch, paratowch y ffordd, cyfodwch y rhwystr o ffordd fy mhobl.

15. Canys fel hyn y dywed y Goruchel a'r dyrchafedig, yr hwn a breswylia dragwyddoldeb, ac y mae ei enw yn Sanctaidd, Y goruchelder a'r cysegr a breswyliaf; a chyda'r cystuddiedig a'r isel o ysbryd, i fywhau y rhai isel o ysbryd, ac i fywhau calon y rhai cystuddiedig.

16. Canys nid byth yr ymrysonaf, ac nid yn dragywydd y digiaf: oherwydd yr ysbryd a ballai o'm blaen i, a'r eneidiau a wneuthum i.

17. Am anwiredd ei gybydd‐dod ef y digiais, ac y trewais ef: ymguddiais, a digiais, ac efe a aeth rhagddo yn gildynnus ar hyd ffordd ei galon.

18. Ei ffyrdd a welais, a mi a'i hiachâf ef: tywysaf ef hefyd, ac adferaf gysur iddo, ac i'w alarwyr.

19. Myfi sydd yn creu ffrwyth y gwefusau; Heddwch, heddwch, i bell, ac i agos, medd yr Arglwydd: a mi a'i hiachâf ef.

20. Ond y rhai anwir sydd fel y môr yn dygyfor, pan na allo fod yn llonydd, yr hwn y mae ei ddyfroedd yn bwrw allan dom a llaid.

21. Ni bydd heddwch, medd fy Nuw, i'r rhai annuwiol.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 57