1. Darfu am y cyfiawn, ac ni esyd neb at ei galon; a'r gwŷr trugarog a gymerir ymaith, heb neb yn deall mai o flaen drygfyd y cymerir y cyfiawn ymaith.
2. Efe a â i dangnefedd: hwy a orffwysant yn eu hystafelloedd, sef pob un a rodia yn ei uniondeb.
3. Nesewch yma, meibion yr hudoles, had y godinebus a'r butain.
4. Yn erbyn pwy yr ymddigrifwch? yn erbyn pwy y lledwch safn, ac yr estynnwch dafod? onid meibion camwedd a had ffalsedd ydych chwi?
5. Y rhai a ymwresogwch ag eilunod dan bob pren deiliog, gan ladd y plant yn y glynnoedd dan gromlechydd y creigiau.
6. Yng nghabolfeini yr afon y mae dy ran; hwynt‐hwy yw dy gwtws: iddynt hwy hefyd y tywelltaist ddiod‐offrwm, ac yr offrymaist fwyd‐offrwm. Ai yn y rhai hyn yr ymgysurwn?
7. Ar fynydd uchel a dyrchafedig y gosodaist dy wely: dringaist hefyd yno i aberthu aberth.
8. Yng nghil y drysau hefyd a'r pyst y gosodaist dy goffadwriaeth: canys ymddinoethaist i arall heb fy llaw i, a dringaist; helaethaist dy wely, ac a wnaethost amod rhyngot a hwynt; ti a hoffaist eu gorweddle hwynt pa le bynnag y gwelaist.
9. Cyfeiriaist hefyd at y brenin ag ennaint, ac amlheaist dy beraroglau: anfonaist hefyd dy genhadau i bell, ac ymostyngaist hyd uffern.