Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 57:1-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Darfu am y cyfiawn, ac ni esyd neb at ei galon; a'r gwŷr trugarog a gymerir ymaith, heb neb yn deall mai o flaen drygfyd y cymerir y cyfiawn ymaith.

2. Efe a â i dangnefedd: hwy a orffwysant yn eu hystafelloedd, sef pob un a rodia yn ei uniondeb.

3. Nesewch yma, meibion yr hudoles, had y godinebus a'r butain.

4. Yn erbyn pwy yr ymddigrifwch? yn erbyn pwy y lledwch safn, ac yr estynnwch dafod? onid meibion camwedd a had ffalsedd ydych chwi?

5. Y rhai a ymwresogwch ag eilunod dan bob pren deiliog, gan ladd y plant yn y glynnoedd dan gromlechydd y creigiau.

6. Yng nghabolfeini yr afon y mae dy ran; hwynt‐hwy yw dy gwtws: iddynt hwy hefyd y tywelltaist ddiod‐offrwm, ac yr offrymaist fwyd‐offrwm. Ai yn y rhai hyn yr ymgysurwn?

7. Ar fynydd uchel a dyrchafedig y gosodaist dy wely: dringaist hefyd yno i aberthu aberth.

8. Yng nghil y drysau hefyd a'r pyst y gosodaist dy goffadwriaeth: canys ymddinoethaist i arall heb fy llaw i, a dringaist; helaethaist dy wely, ac a wnaethost amod rhyngot a hwynt; ti a hoffaist eu gorweddle hwynt pa le bynnag y gwelaist.

9. Cyfeiriaist hefyd at y brenin ag ennaint, ac amlheaist dy beraroglau: anfonaist hefyd dy genhadau i bell, ac ymostyngaist hyd uffern.

10. Ym maint dy ffordd yr ymflinaist; ac ni ddywedaist, Nid oes obaith: cefaist fywyd dy law; am hynny ni chlefychaist.

11. Pwy hefyd a arswydaist ac a ofnaist, fel y dywedaist gelwydd, ac na chofiaist fi, ac nad ystyriaist yn dy galon? oni thewais i â sôn er ys talm, a thithau heb fy ofni?

12. Myfi a fynegaf dy gyfiawnder, a'th weithredoedd: canys ni wnânt i ti les.

13. Pan waeddech, gwareded dy gynulleidfaoedd di: eithr y gwynt a'u dwg hwynt ymaith oll; oferedd a'u cymer hwynt: ond yr hwn a obeithia ynof fi a etifedda y tir, ac a feddianna fynydd fy sancteiddrwydd.

14. Ac efe a ddywed, Palmentwch, palmentwch, paratowch y ffordd, cyfodwch y rhwystr o ffordd fy mhobl.

15. Canys fel hyn y dywed y Goruchel a'r dyrchafedig, yr hwn a breswylia dragwyddoldeb, ac y mae ei enw yn Sanctaidd, Y goruchelder a'r cysegr a breswyliaf; a chyda'r cystuddiedig a'r isel o ysbryd, i fywhau y rhai isel o ysbryd, ac i fywhau calon y rhai cystuddiedig.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 57