Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 53:1-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Pwy a gredodd i'n hymadrodd? ac i bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd?

2. Canys efe a dyf o'i flaen ef fel blaguryn, ac fel gwreiddyn o dir sych: nid oes na phryd na thegwch iddo: pan edrychom arno, ni bydd pryd fel y dymunem ef.

3. Dirmygedig yw, a diystyraf o'r gwŷr; gŵr gofidus, a chynefin â dolur: ac yr oeddem megis yn cuddio ein hwynebau oddi wrtho: dirmygedig oedd, ac ni wnaethom gyfrif ohono.

4. Diau efe a gymerth ein gwendid ni, ac a ddug ein doluriau: eto ni a'i cyfrifasom ef wedi ei faeddu, ei daro gan Dduw, a'i gystuddio.

5. Ond efe a archollwyd am ein camweddau ni, efe a ddrylliwyd am ein hanwireddau ni: cosbedigaeth ein heddwch ni oedd arno ef: a thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni.

6. Nyni oll a grwydrasom fel defaid; troesom bawb i'w ffordd ei hun: a'r Arglwydd a roddes arno ef ein hanwiredd ni i gyd.

7. Efe a orthrymwyd, ac efe a gystuddiwyd, ac nid agorai ei enau: fel oen yr arweinid ef i'r lladdfa, ac fel y tau dafad o flaen y rhai a'i cneifiai, felly nid agorai yntau ei enau.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 53