Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 52:6-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Am hynny y caiff fy mhobl adnabod fy enw: am hynny y cânt wybod y dydd hwnnw, mai myfi yw yr hwn sydd yn dywedyd: wele, myfi ydyw.

7. Mor weddaidd ar y mynyddoedd yw traed yr hwn sydd yn efengylu, yn cyhoeddi heddwch; a'r hwn sydd yn mynegi daioni, yn cyhoeddi iachawdwriaeth; yn dywedyd wrth Seion, Dy Dduw di sydd yn teyrnasu.

8. Dy wylwyr a ddyrchafant lef; gyda'r llef y cydganant: canys gwelant lygad yn llygad, pan ddychwelo yr Arglwydd Seion.

9. Bloeddiwch, cydgenwch, anialwch Jerwsalem: canys yr Arglwydd a gysurodd ei bobl, efe a waredodd Jerwsalem.

10. Diosgodd yr Arglwydd fraich ei sancteiddrwydd yng ngolwg yr holl genhedloedd: a holl gyrrau y ddaear a welant iachawdwriaeth ein Duw ni.

11. Ciliwch, ciliwch, ewch allan oddi yno, na chyffyrddwch â dim halogedig; ewch allan o'i chanol; ymlanhewch, y rhai a ddygwch lestri yr Arglwydd.

12. Canys nid ar frys yr ewch allan, ac nid ar ffo y cerddwch: canys yr Arglwydd a â o'ch blaen chwi, a Duw Israel a'ch casgl chwi.

13. Wele, fy ngwas a lwydda; efe a godir, a ddyrchefir, ac a fydd uchel iawn.

14. Megis y rhyfeddodd llawer wrthyt, (mor llygredig oedd ei wedd yn anad neb, a'i bryd yn anad meibion dynion,)

15. Felly y taenella efe genhedloedd lawer; brenhinoedd a gaeant eu genau wrtho ef; canys gwelant yr hyn ni fynegasid iddynt, a deallant yr hyn ni chlywsent.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 52