Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 52:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Deffro, deffro, gwisg dy nerth, Seion; gwisg wisgoedd dy ogoniant, sanctaidd ddinas Jerwsalem: canys ni ddaw o'th fewn mwy ddienwaededig nac aflan.

2. Ymysgwyd o'r llwch, cyfod, eistedd, Jerwsalem: ymddatod oddi wrth rwymau dy wddf, ti gaethferch Seion.

3. Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Yn rhad yr ymwerthasoch; ac nid ag arian y'ch gwaredir.

4. Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd Dduw, Fy mhobl a aeth i waered i'r Aifft yn y dechreuad, i ymdaith yno; a'r Asyriaid a'u gorthrymodd yn ddiachos.

5. Ac yn awr beth sydd yma i mi, medd yr Arglwydd, pan ddygid fy mhobl ymaith yn rhad? eu llywodraethwyr a wna iddynt udo, medd yr Arglwydd; a phob dydd yn wastad y ceblir fy enw.

6. Am hynny y caiff fy mhobl adnabod fy enw: am hynny y cânt wybod y dydd hwnnw, mai myfi yw yr hwn sydd yn dywedyd: wele, myfi ydyw.

7. Mor weddaidd ar y mynyddoedd yw traed yr hwn sydd yn efengylu, yn cyhoeddi heddwch; a'r hwn sydd yn mynegi daioni, yn cyhoeddi iachawdwriaeth; yn dywedyd wrth Seion, Dy Dduw di sydd yn teyrnasu.

8. Dy wylwyr a ddyrchafant lef; gyda'r llef y cydganant: canys gwelant lygad yn llygad, pan ddychwelo yr Arglwydd Seion.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 52