Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 51:13-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Ac a anghofi yr Arglwydd dy Wneuthurwr, yr hwn a estynnodd y nefoedd, ac a seiliodd y ddaear? ac a ofnaist bob dydd yn wastad rhag llid y gorthrymydd, fel pe darparai i ddinistrio? a pha le y mae llid y gorthrymydd?

14. Y carcharor sydd yn brysio i gael ei ollwng yn rhydd, fel na byddo farw yn y pwll, ac na phallo ei fara ef.

15. Eithr myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a barthodd y môr, pan ruodd ei donnau: ei enw yw Arglwydd y lluoedd.

16. Gosodais hefyd fy ngeiriau yn dy enau, ac yng nghysgod fy llaw y'th doais, fel y plannwn y nefoedd, ac y seiliwn y ddaear, ac y dywedwn wrth Seion, Fy mhobl ydwyt.

17. Deffro, deffro, cyfod, Jerwsalem, yr hon a yfaist o law yr Arglwydd gwpan ei lidiowgrwydd ef; yfaist waddod y cwpan erchyll, ie, sugnaist ef.

18. Nid oes arweinydd iddi o'r holl feibion a esgorodd; ac nid oes a ymaflo yn ei llaw o'r holl feibion a fagodd.

19. Y ddau beth hyn a ddigwyddasant i ti; pwy a ofidia trosot? dinistr a distryw, a newyn a chleddyf; trwy bwy y'th gysuraf?

20. Dy feibion a lewygasant, gorweddant ym mhen pob heol, fel tarw gwyllt mewn magl: llawn ydynt o lidiowgrwydd yr Arglwydd, a cherydd dy Dduw.

21. Am hynny gwrando fi yn awr, y druan, a'r feddw, ac nid trwy win.

22. Fel hyn y dywed dy Arglwydd, yr Arglwydd, a'th Dduw di, yr hwn a ddadlau dros ei bobl, Wele, cymerais o'th law y cwpan erchyll, sef gwaddod cwpan fy llidiowgrwydd: ni chwanegi ei yfed mwy:

23. Eithr rhoddaf ef yn llaw dy gystuddwyr; y rhai a ddywedasant wrth dy enaid, Gostwng, fel yr elom drosot: a thi a osodaist dy gorff fel y llawr, ac fel heol i'r rhai a elent drosto.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 51