Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 50:6-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Fy nghorff a roddais i'r curwyr, a'm cernau i'r rhai a dynnai y blew: ni chuddiais fy wyneb oddi wrth waradwydd a phoeredd.

7. Oherwydd yr Arglwydd Dduw a'm cymorth; am hynny ni'm cywilyddir: am hynny gosodais fy wyneb fel callestr, a gwn na'm cywilyddir.

8. Agos yw yr hwn a'm cyfiawnha; pwy a ymryson â mi? safwn ynghyd: pwy yw fy ngwrthwynebwr? nesaed ataf.

9. Wele, yr Arglwydd Dduw a'm cynorthwya; pwy yw yr hwn a'm bwrw yn euog? wele, hwynt oll a heneiddiant fel dilledyn; y gwyfyn a'u hysa hwynt.

10. Pwy yn eich mysg sydd yn ofni yr Arglwydd, yn gwrando ar lais ei was ef, yn rhodio mewn tywyllwch, ac heb lewyrch iddo? gobeithied yn enw yr Arglwydd, ac ymddirieded yn ei Dduw.

11. Wele, chwi oll y rhai ydych yn cynnau tân, ac yn eich amgylchu eich hunain â gwreichion; rhodiwch wrth lewyrch eich tân, ac wrth y gwreichion a gyneuasoch. O'm llaw i y bydd hyn i chwi; mewn gofid y gorweddwch.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 50