1. Canaf yr awr hon i'm hanwylyd, ganiad fy anwylyd am ei winllan. Gwinllan sydd i'm hanwylyd mewn bryn tra ffrwythlon:
2. Ac efe a'i cloddiodd hi, ac a'i digaregodd, ac a'i plannodd o'r winwydden orau, ac a adeiladodd dŵr yn ei chanol, ac a drychodd winwryf ynddi: ac efe a ddisgwyliodd iddi ddwyn grawnwin, hithau a ddug rawn gwylltion.
3. Ac yr awr hon, preswylwyr Jerwsalem, a gwŷr Jwda, bernwch, atolwg, rhyngof fi a'm gwinllan.
4. Beth oedd i'w wneuthur ychwaneg i'm gwinllan, nag a wneuthum ynddi? paham, a mi yn disgwyl iddi ddwyn grawnwin, y dug hi rawn gwylltion?
5. Ac yr awr hon mi a hysbysaf i chwi yr hyn a wnaf i'm gwinllan: tynnaf ymaith ei chae, fel y porer hi; torraf ei magwyr, fel y byddo hi yn sathrfa;
6. A mi a'i gosodaf hi yn ddifrod: nid ysgythrir hi, ac ni chloddir hi; ond mieri a drain a gyfyd: ac i'r cymylau y gorchmynnaf na lawiont law arni.
7. Diau, gwinllan Arglwydd y lluoedd yw tŷ Israel, a gwŷr Jwda yw ei blanhigyn hyfryd ef: ac efe a ddisgwyliodd am farn, ac wele drais; am gyfiawnder, ac wele lef.
8. Gwae y rhai sydd yn cysylltu tŷ at dŷ, ac yn cydio maes wrth faes, hyd oni byddo eisiau lle, ac y trigoch chwi yn unig yng nghanol y tir.