Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 49:16-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Wele, ar gledr fy nwylo y'th argreffais; dy furiau sydd ger fy mron bob amser.

17. Dy blant a frysiant; y rhai a'th ddinistriant, ac a'th ddistrywiant, a ânt allan ohonot.

18. Dyrcha dy lygaid oddi amgylch, ac edrych: y rhai hyn oll a ymgasglant, ac a ddeuant atat. Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd, diau y gwisgi hwynt oll fel harddwisg, ac y rhwymi hwynt amdanat fel priodferch.

19. Canys dy ddiffeithwch a'th anialwch, a'th dir dinistriol, yn ddiau fydd yn awr yn rhy gyfyng gan breswylwyr; a'r rhai a'th lyncant a ymbellhânt.

20. Plant dy ddiepiledd a ddywedant eto lle y clywych, Cyfyng yw y lle hwn i mi; dod le i mi, fel y preswyliwyf.

21. Yna y dywedi yn dy galon, Pwy a genhedlodd y rhai hyn i mi, a mi yn ddiepil, ac yn unig, yn gaeth, ac ar grwydr? a phwy a fagodd y rhai hyn? Wele, myfi a adawyd fy hunan; o ba le y daeth y rhai hyn?

22. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele, cyfodaf fy llaw at y cenhedloedd, a dyrchafaf fy maner at y bobloedd; a dygant dy feibion yn eu mynwes, a dygir dy ferched ar ysgwyddau.

23. Brenhinoedd hefyd fydd dy dadmaethod, a'u breninesau dy famaethod; crymant i ti â'u hwynebau tua'r llawr, a llyfant lwch dy draed; a chei wybod mai myfi yw yr Arglwydd: canys ni chywilyddir y rhai a ddisgwyliant wrthyf fi.

24. A ddygir y caffaeliad oddi ar y cadarn? neu a waredir y rhai a garcherir yn gyfiawn?

25. Ond fel hyn y dywed yr Arglwydd, Ie, carcharorion y cadarn a ddygir, ac anrhaith y creulon a ddianc: canys myfi a ymrysonaf â'th ymrysonydd, a myfi a achubaf dy feibion.

26. Gwnaf hefyd i'th orthrymwyr fwyta eu cig eu hunain, ac ar eu gwaed eu hun y meddwant fel ar win melys; a gwybydd pob cnawd mai myfi yr Arglwydd yw dy Achubydd, a'th gadarn Waredydd di, Jacob.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 49