Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 48:3-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Y pethau gynt a fynegais er y pryd hwnnw, a daethant o'm genau, a mi a'u traethais; mi a'u gwneuthum yn ddisymwth, daethant i ben.

4. Oherwydd i mi wybod dy fod di yn galed, a'th war fel giewyn haearn, a'th dalcen yn bres;

5. Mi a'i mynegais i ti er y pryd hwnnw; adroddais i ti cyn ei ddyfod; rhag dywedyd ohonot, Fy nelw a'u gwnaeth, fy ngherfddelw a'm tawdd‐ddelw a'u gorchmynnodd.

6. Ti a glywaist, gwêl hyn oll; ac oni fynegwch chwithau ef? adroddais i ti bethau newyddion o'r pryd hwn, a phethau cuddiedig, y rhai ni wyddit oddi wrthynt.

7. Yn awr y crewyd hwynt, ac nid er y dechreuad, cyn y dydd ni chlywaist sôn amdanynt: rhag dywedyd ohonot, Wele, gwyddwn hwynt.

8. Ie, nis clywsit, ac nis gwyddit chwaith, nid agorasid dy glust y pryd hwnnw: canys gwyddwn y byddit lwyr anffyddlon, a'th alw o'r groth yn droseddwr.

9. Er mwyn fy enw yr oedaf fy llid, ac er fy mawl yr ymataliaf oddi wrthyt, rhag dy ddifetha.

10. Wele, myfi a'th burais, ond nid fel arian; dewisais di mewn pair cystudd.

11. Er fy mwyn fy hun, er fy mwyn fy hun, y gwnaf hyn; canys pa fodd yr halogid fy enw? ac ni roddaf fy ngogoniant i arall.

12. Gwrando arnaf fi, Jacob, ac Israel, yr hwn a elwais: myfi yw; myfi yw y cyntaf, a mi yw y diwethaf.

13. Fy llaw i hefyd a seiliodd y ddaear, a'm deheulaw i a rychwantodd y nefoedd: pan alwyf fi arnynt, hwy a gydsafant.

14. Ymgesglwch oll, a gwrandewch; pwy ohonynt hwy a fynegodd hyn? Yr Arglwydd a'i hoffodd; efe a wna ei ewyllys ar Babilon, a'i fraich a fydd ar y Caldeaid.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 48