Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 48:12-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Gwrando arnaf fi, Jacob, ac Israel, yr hwn a elwais: myfi yw; myfi yw y cyntaf, a mi yw y diwethaf.

13. Fy llaw i hefyd a seiliodd y ddaear, a'm deheulaw i a rychwantodd y nefoedd: pan alwyf fi arnynt, hwy a gydsafant.

14. Ymgesglwch oll, a gwrandewch; pwy ohonynt hwy a fynegodd hyn? Yr Arglwydd a'i hoffodd; efe a wna ei ewyllys ar Babilon, a'i fraich a fydd ar y Caldeaid.

15. Myfi, myfi a leferais, ac a'i gelwais ef: dygais ef, ac efe a lwydda ei ffordd ef.

16. Nesewch ataf, gwrandewch hyn; ni leferais o'r cyntaf yn ddirgel; er y pryd y mae hynny yr ydwyf finnau yno: ac yn awr yr Arglwydd Dduw a'i Ysbryd a'm hanfonodd.

17. Fel hyn y dywed yr Arglwydd dy Waredydd, Sanct Israel; Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn wyf yn dy ddysgu di i wellhau, gan dy arwain yn y ffordd y dylit rodio.

18. O na wrandawsit ar fy ngorchmynion! yna y buasai dy heddwch fel afon, a'th gyfiawnder fel tonnau y môr:

19. A buasai dy had fel y tywod, ac epil dy gorff fel ei raean ef: ni thorasid, ac ni ddinistriasid ei enw oddi ger fy mron.

20. Ewch allan o Babilon, ffowch oddi wrth y Caldeaid, â llef gorfoledd mynegwch ac adroddwch hyn, traethwch ef hyd eithafoedd y ddaear; dywedwch, Gwaredodd yr Arglwydd ei was Jacob.

21. Ac ni sychedasant pan arweiniodd hwynt yn yr anialwch: gwnaeth i ddwfr bistyllio iddynt o'r graig: holltodd y graig hefyd, a'r dwfr a ddylifodd.

22. Nid oes heddwch, medd yr Arglwydd, i'r rhai annuwiol.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 48