10. Wele, myfi a'th burais, ond nid fel arian; dewisais di mewn pair cystudd.
11. Er fy mwyn fy hun, er fy mwyn fy hun, y gwnaf hyn; canys pa fodd yr halogid fy enw? ac ni roddaf fy ngogoniant i arall.
12. Gwrando arnaf fi, Jacob, ac Israel, yr hwn a elwais: myfi yw; myfi yw y cyntaf, a mi yw y diwethaf.
13. Fy llaw i hefyd a seiliodd y ddaear, a'm deheulaw i a rychwantodd y nefoedd: pan alwyf fi arnynt, hwy a gydsafant.
14. Ymgesglwch oll, a gwrandewch; pwy ohonynt hwy a fynegodd hyn? Yr Arglwydd a'i hoffodd; efe a wna ei ewyllys ar Babilon, a'i fraich a fydd ar y Caldeaid.
15. Myfi, myfi a leferais, ac a'i gelwais ef: dygais ef, ac efe a lwydda ei ffordd ef.
16. Nesewch ataf, gwrandewch hyn; ni leferais o'r cyntaf yn ddirgel; er y pryd y mae hynny yr ydwyf finnau yno: ac yn awr yr Arglwydd Dduw a'i Ysbryd a'm hanfonodd.
17. Fel hyn y dywed yr Arglwydd dy Waredydd, Sanct Israel; Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn wyf yn dy ddysgu di i wellhau, gan dy arwain yn y ffordd y dylit rodio.
18. O na wrandawsit ar fy ngorchmynion! yna y buasai dy heddwch fel afon, a'th gyfiawnder fel tonnau y môr:
19. A buasai dy had fel y tywod, ac epil dy gorff fel ei raean ef: ni thorasid, ac ni ddinistriasid ei enw oddi ger fy mron.