Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 48:1-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwrandewch hyn, tŷ Jacob, y rhai a elwir ar enw Israel, ac a ddaethant allan o ddyfroedd Jwda; y rhai a dyngant i enw yr Arglwydd, ac a goffânt am Dduw Israel, nid mewn gwirionedd, nac mewn cyfiawnder.

2. Canys hwy a'u galwant eu hunain o'r ddinas sanctaidd, ac a bwysant ar Dduw Israel; enw yr hwn yw Arglwydd y lluoedd.

3. Y pethau gynt a fynegais er y pryd hwnnw, a daethant o'm genau, a mi a'u traethais; mi a'u gwneuthum yn ddisymwth, daethant i ben.

4. Oherwydd i mi wybod dy fod di yn galed, a'th war fel giewyn haearn, a'th dalcen yn bres;

5. Mi a'i mynegais i ti er y pryd hwnnw; adroddais i ti cyn ei ddyfod; rhag dywedyd ohonot, Fy nelw a'u gwnaeth, fy ngherfddelw a'm tawdd‐ddelw a'u gorchmynnodd.

6. Ti a glywaist, gwêl hyn oll; ac oni fynegwch chwithau ef? adroddais i ti bethau newyddion o'r pryd hwn, a phethau cuddiedig, y rhai ni wyddit oddi wrthynt.

7. Yn awr y crewyd hwynt, ac nid er y dechreuad, cyn y dydd ni chlywaist sôn amdanynt: rhag dywedyd ohonot, Wele, gwyddwn hwynt.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 48