Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 46:2-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Gostyngant, cydgrymant: ni allent achub y llwyth, ond aethant mewn caethiwed eu hunain.

3. Tŷ Jacob, gwrandewch arnaf fi, a holl weddill tŷ Israel, y rhai a dducpwyd gennyf o'r groth, ac a arweddwyd o'r bru:

4. Hyd henaint hefyd myfi yw; ie, myfi a'ch dygaf hyd oni benwynnoch: gwneuthum, arweddaf hefyd; ie, dygaf, a gwaredaf chwi.

5. I bwy y'm gwnewch yn debyg, ac y'm cystedlwch, ac y'm cyffelybwch, fel y byddom debyg?

6. Hwy a wastraffant aur o'r pwrs, ac a bwysant arian mewn clorian, a gyflogant eurych, ac efe a'i gweithia yn dduw: gostyngant, ac ymgrymant.

7. Dygant ef ar ysgwyddau, dygant ef, ac a'i gosodant yn ei le, ac efe a saif; ni syfl o'i le: os llefa un arno, nid etyb, ac nis gwared ef o'i gystudd.

8. Cofiwch hyn, a byddwch wŷr: atgofiwch, droseddwyr.

9. Cofiwch y pethau gynt erioed; canys myfi ydwyf Dduw, ac nid neb arall; Duw ydwyf, ac heb fy math;

10. Yn mynegi y diwedd o'r dechreuad, ac er cynt yr hyn ni wnaed eto, yn dywedyd, Fy nghyngor a saif, a'm holl ewyllys a wnaf:

11. Yn galw aderyn o'r dwyrain, y gŵr a wna fy nghyngor o wlad bell: dywedais, a mi a'i dygaf i ben; mi a'i lluniais, a mi a'i gwnaf.

12. Gwrandewch arnaf fi, y rhai cedyrn galon, y rhai pell oddi wrth gyfiawnder:

13. Neseais fy nghyfiawnder; ni bydd bell, a'm hiachawdwriaeth nid erys: rhoddaf hefyd iachawdwriaeth yn Seion i'm gogoniant Israel.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 46