Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 46:1-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Crymodd Bel, plygodd Nebo; eu delwau oedd ar fwystfilod ac ar anifeiliaid: eich clud a lwythwyd yn drwm; llwyth ydynt i'r diffygiol.

2. Gostyngant, cydgrymant: ni allent achub y llwyth, ond aethant mewn caethiwed eu hunain.

3. Tŷ Jacob, gwrandewch arnaf fi, a holl weddill tŷ Israel, y rhai a dducpwyd gennyf o'r groth, ac a arweddwyd o'r bru:

4. Hyd henaint hefyd myfi yw; ie, myfi a'ch dygaf hyd oni benwynnoch: gwneuthum, arweddaf hefyd; ie, dygaf, a gwaredaf chwi.

5. I bwy y'm gwnewch yn debyg, ac y'm cystedlwch, ac y'm cyffelybwch, fel y byddom debyg?

6. Hwy a wastraffant aur o'r pwrs, ac a bwysant arian mewn clorian, a gyflogant eurych, ac efe a'i gweithia yn dduw: gostyngant, ac ymgrymant.

7. Dygant ef ar ysgwyddau, dygant ef, ac a'i gosodant yn ei le, ac efe a saif; ni syfl o'i le: os llefa un arno, nid etyb, ac nis gwared ef o'i gystudd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 46