Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 45:9-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Gwae a ymrysono â'i Luniwr. Ymrysoned priddell â phriddellau y ddaear. A ddywed y clai wrth ei luniwr, Beth a wnei? neu, Y mae dy waith heb ddwylo iddo?

10. Gwae a ddywedo wrth ei dad, Beth a genhedli? neu wrth y wraig, Beth a esgoraist?

11. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Sanct Israel, a'i Luniwr, Gofynnwch i mi y pethau a ddaw am fy meibion, a gorchmynnwch fi am waith fy nwylo.

12. Myfi a wneuthum y ddaear, ac a greais ddyn arni: myfi, ie, fy nwylo i a estynasant y nefoedd, ac a orchmynnais eu holl luoedd.

13. Myfi a'i cyfodais ef mewn cyfiawnder, a'i holl ffyrdd a gyfarwyddaf; efe a adeilada fy ninas, efe a ollwng fy ngharcharorion, heb na gwerth na gobrwy, medd Arglwydd y lluoedd.

14. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Llafur yr Aifft, a marsiandïaeth Ethiopia, a'r Sabeaid hirion, a ddeuant atat ti, ac eiddot ti fyddant; ar dy ôl y deuant; mewn cadwyni y deuant trosodd, ac ymgrymant i ti; atat y gweddïant, gan ddywedyd, Yn ddiau ynot ti y mae Duw, ac nid oes arall, nac oes Duw.

15. Ti yn ddiau wyt Dduw yn ymguddio, O Dduw Israel yr Achubwr!

16. Cywilyddir a gwaradwyddir hwynt oll; seiri delwau a ânt ynghyd i waradwydd.

17. Israel a achubir yn yr Arglwydd â iachawdwriaeth dragwyddol: ni'ch cywilyddir ac ni'ch gwaradwyddir byth bythoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 45