Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 45:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth ei eneiniog, wrth Cyrus, yr hwn yr ymeflais i yn ei ddeheulaw, i ddarostwng cenhedloedd o'i flaen ef: a mi a ddatodaf lwynau brenhinoedd; i agoryd y dorau o'i flaen ef; a'r pyrth ni chaeir:

2. Mi a af o'th flaen di, ac a unionaf y gwyrgeimion; y dorau pres a dorraf, a'r barrau heyrn a ddrylliaf:

3. Ac a roddaf i ti drysorau cuddiedig, a chuddfeydd dirgel, fel y gwypech mai myfi yr Arglwydd, yr hwn a'th alwodd erbyn dy enw, yw Duw Israel.

4. Er mwyn Jacob fy ngwas, ac Israel fy etholedig, y'th elwais erbyn dy enw: mi a'th gyfenwais, er na'm hadwaenit.

5. Myfi ydwyf yr Arglwydd, ac nid arall, nid oes Duw ond myfi; gwregysais di, er na'm hadwaenit:

6. Fel y gwypont o godiad haul, ac o'r gorllewin, nad neb ond myfi: myfi yw yr Arglwydd, ac nid arall:

7. Yn llunio goleuni, ac yn creu tywyllwch; yn gwneuthur llwyddiant, ac yn creu drygfyd: myfi yr Arglwydd sydd yn gwneuthur hyn oll.

8. Defnynnwch, nefoedd, oddi uchod, a thywallted yr wybrennau gyfiawnder; ymagored y ddaear, ffrwythed iachawdwriaeth a chyfiawnder, cyd‐darddant: myfi yr Arglwydd a'u creais.

9. Gwae a ymrysono â'i Luniwr. Ymrysoned priddell â phriddellau y ddaear. A ddywed y clai wrth ei luniwr, Beth a wnei? neu, Y mae dy waith heb ddwylo iddo?

10. Gwae a ddywedo wrth ei dad, Beth a genhedli? neu wrth y wraig, Beth a esgoraist?

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 45