Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 44:9-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Oferedd ydynt hwy oll y rhai a luniant ddelw gerfiedig; ni wna eu pethau dymunol lesâd: tystion ydynt iddynt eu hun, na welant, ac na wyddant; fel y byddo cywilydd arnynt.

10. Pwy a luniai dduw, neu a fwriai ddelw gerfiedig, heb wneuthur dim lles?

11. Wele, ei holl gyfeillion a gywilyddir, y seiri hefyd, o ddynion y maent: casgler hwynt oll, safant i fyny; eto hwy a ofnant, ac a gydgywilyddiant.

12. Y gof â'r efel a weithia yn y glo, ac a'i llunia â morthwylion, ac â nerth ei fraich y gweithia efe hi: newynog yw hefyd, a'i nerth a balla; nid yf ddwfr, ac y mae yn diffygio.

13. Y saer pren a estyn ei linyn; efe a'i llunia hi wrth linyn coch; efe a'i cymhwysa hi â bwyeill, ac a'i gweithia wrth gwmpas, ac a'i gwna ar ôl delw dyn, fel prydferthwch dyn, i aros mewn tŷ.

14. Efe a dyr iddo gedrwydd, ac a gymer y gypreswydden a'r dderwen, ac a ymegnïa ymysg prennau y coed; efe a blanna onnen, a'r glaw a'i maetha.

15. Yna y bydd i ddyn i gynnau tân: canys efe a gymer ohoni, ac a ymdwyma; ie, efe a'i llysg, ac a boba fara; gwna hefyd dduw, ac a'i haddola ef; gwna ef yn ddelw gerfiedig, ac a ymgryma iddo.

16. Rhan ohono a lysg efe yn tân; wrth ran ohono y bwyty gig, y rhostia rost, fel y diwaller ef: efe a ymdwyma hefyd, ac a ddywed, Aha, ymdwymais, gwelais dân.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 44