Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 44:13-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Y saer pren a estyn ei linyn; efe a'i llunia hi wrth linyn coch; efe a'i cymhwysa hi â bwyeill, ac a'i gweithia wrth gwmpas, ac a'i gwna ar ôl delw dyn, fel prydferthwch dyn, i aros mewn tŷ.

14. Efe a dyr iddo gedrwydd, ac a gymer y gypreswydden a'r dderwen, ac a ymegnïa ymysg prennau y coed; efe a blanna onnen, a'r glaw a'i maetha.

15. Yna y bydd i ddyn i gynnau tân: canys efe a gymer ohoni, ac a ymdwyma; ie, efe a'i llysg, ac a boba fara; gwna hefyd dduw, ac a'i haddola ef; gwna ef yn ddelw gerfiedig, ac a ymgryma iddo.

16. Rhan ohono a lysg efe yn tân; wrth ran ohono y bwyty gig, y rhostia rost, fel y diwaller ef: efe a ymdwyma hefyd, ac a ddywed, Aha, ymdwymais, gwelais dân.

17. A'r rhan arall yn dduw y gwna, yn ddelw gerfiedig iddo; efe a ymgryma iddo, ac a'i haddola, ac a weddïa arno, ac a ddywed, Gwared fi; canys fy nuw ydwyt.

18. Ni wyddant, ac ni ddeallant; canys Duw a gaeodd eu llygaid hwynt rhag gweled, a'u calonnau rhag deall.

19. Ie, ni feddwl neb yn ei galon, ie, nid oes wybodaeth na deall i ddywedyd, Llosgais ran ohono yn tân, ac ar ei farwor y pobais fara, y rhostiais gig, ac y bwyteais; ac a wnaf fi y rhan arall yn ffieiddbeth? a ymgrymaf i foncyff o bren?

20. Ymborth ar ludw y mae; calon siomedig a'i gwyrdrôdd ef, fel na waredo ei enaid, ac na ddywedo, Onid oes celwydd yn fy neheulaw?

21. Meddwl hyn, Jacob ac Israel; canys fy ngwas ydwyt ti; lluniais di, gwas i mi ydwyt; Israel, ni'th anghofir gennyf.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 44