Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 43:15-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Myfi yr Arglwydd yw eich Sanct chwi, Creawdydd Israel, eich Brenin chwi.

16. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, yr hwn a wna ffordd yn y môr, a llwybr yn y dyfroedd cryfion;

17. Yr hwn a ddwg allan y cerbyd a'r march, y llu a'r cryfder; cydorweddant, ni chodant: darfuant, fel llin y diffoddasant.

18. Na chofiwch y pethau o'r blaen, ac nac ystyriwch y pethau gynt.

19. Wele fi yn gwneuthur peth newydd: yr awr hon y dechrau; oni chewch ei wybod? Gwnaf ffordd yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch.

20. Bwystfil y maes, y dreigiau, a chywion yr estrys, a'm gogoneddant; am roddi ohonof ddwfr yn yr anialwch, a'r afonydd yn y diffeithwch, i roddi diod i'm pobl, fy newisedig.

21. Y bobl hyn a luniais i mi fy hun; fy moliant a fynegant.

22. Eithr ni elwaist arnaf, Jacob; ond blinaist arnaf, Israel.

23. Ni ddygaist i mi filod dy offrymau poeth, ac ni'm hanrhydeddaist â'th ebyrth: ni pherais i ti fy ngwasanaethu ag offrwm, ac ni'th flinais ag arogl‐darth.

24. Ni phrynaist i mi galamus ag arian, ac ni'm llenwaist â braster dy ebyrth: eithr ti a wnaethost i mi wasanaethu â'th bechodau, blinaist fi â'th anwireddau.

25. Myfi, myfi yw yr hwn a ddilea dy gamweddau er fy mwyn fy hun, ac ni chofiaf dy bechodau.

26. Dwg ar gof i mi, cydymddadleuwn: adrodd di, fel y'th gyfiawnhaer.

27. Dy dad cyntaf a bechodd, a'th athrawon a wnaethant gamwedd i'm herbyn.

28. Am hynny yr halogais dywysogion y cysegr, ac y rhoddais Jacob yn ddiofryd‐beth, ac Israel yn waradwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 43