1. Ond yr awr hon fel hyn y dywed yr Arglwydd dy Greawdwr di, Jacob, a'th Luniwr di, Israel, Nac ofna; canys gwaredais di: gelwais di erbyn dy enw; eiddof fi ydwyt.
2. Pan elych trwy y dyfroedd, myfi a fyddaf gyda thi; a thrwy yr afonydd, fel na lifant drosot: pan rodiech trwy'r tân, ni'th losgir; ac ni ennyn y fflam arnat.
3. Canys myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, Sanct Israel, dy Waredydd: myfi a roddais yr Aifft yn iawn trosot, Ethiopia a Seba amdanat.
4. Er pan aethost yn werthfawr yn fy ngolwg, y'th ogoneddwyd, a mi a'th hoffais; am hynny y rhoddaf ddynion amdanat ti, a phobloedd dros dy einioes di.
5. Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: o'r dwyrain y dygaf dy had, ac o'r gorllewin y'th gasglaf.
6. Dywedaf wrth y gogledd, Dod; ac wrth y deau, Nac atal: dwg fy meibion o bell, a'm merched o eithaf y ddaear;
7. Sef pob un a elwir ar fy enw: canys i'm gogoniant y creais ef, y lluniais ef, ac y gwneuthum ef.
8. Dwg allan y bobl ddall sydd â llygaid iddynt, a'r byddariaid sydd â chlustiau iddynt.
9. Casgler yr holl genhedloedd ynghyd, a chynuller y bobloedd; pwy yn eu mysg a fynega hyn, ac a draetha i ni y pethau o'r blaen? dygant eu tystion, fel y cyfiawnhaer hwynt; neu wrandawant, a dywedant, Gwir yw.
10. Fy nhystion i ydych chwi, medd yr Arglwydd, a'm gwas yr hwn a ddewisais; fel yr adnabyddoch, ac y credoch fi, ac y dealloch mai myfi yw: o'm blaen nid oedd Duw wedi ei ffurfio, ac ni bydd ar fy ôl.
11. Myfi, myfi yw yr Arglwydd; ac nid oes geidwad ond myfi.